Mae Awstralia wedi awgrymu y gallan nhw ddilyn esiampl yr Unol Daleithiau a symud eu llysgenhadaeth yn Israel o Tel Aviv i Jerwsalem.
Mae nifer wedi beirniadu’r polisi, gan ddweud nad yw’n ddim mwy nag ymgais i ennill tir gwleidyddol i’r Blaid Ryddfrydol mewn isetholiad.
Dywed prif weinidog Awstralia, Scott Morrison, fod y syniad wedi dod gan gyn-gomisiynydd y wlad yn Israel, Dave Sharma, sy’n ymgeisydd ar ran y Blaid Ryddfrydol yn etholiad dydd Sadwrn yn ardal Iddewig Wentworth.
Yn y fantol y penwythnos hwn y mae mwyafrif o un sedd y blaid yn y Senedd.
“Mae Awstralia wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb i’r gwrthdaro rhwng Israel a’r Palesteiniaid,” meddai Scott Morrison.
“Pan mae awgrymiadau call ar y bwrdd, mae hi’n bosib dod i gytundeb… ac fe ddylai meddwl Awstralia fod yn agored. Rydw i’n cadw meddwl agored, ac mae’r llywodraeth yma yn cadw meddwl agored hefyd ar y pwnc.”