Mae’r heddlu wedi enwi’r dyn a fu farw ar ôl cael ei drywanu ym Mryste yr wythnos ddiwethaf.
Bu farw Ronald Leigh yn yr ysbyty dri diwrnod yn dilyn y digwyddiad ger Gill Avenue yn ardal Fishponds ar Hydref 9.
Dywed archwiliad post-mortem ei fod wedi marw o ganlyniad i drywanu.
Mae’r heddlu wedi cychwyn ymchwiliad i achos o lofruddiaeth, ac maen nhw’n ei gysylltu â digwyddiad arall ar fu ar Heol Donwnend gerllaw, a hynny llai na dwy awr yn ddiweddarach.
Yn ystod y digwyddiad hwnnw, cafodd dyn 48 oed ei anafu’n ddifrifol ar ôl i grŵp o bobol ymosod arno.
Mae’n parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.