Mae 32 o Balestiniaid wedi cael eu hanafu yn dilyn protest ger y ffin ag Israel.
Mae adroddiadau’n dangos y protestwyr yn taflu teiars o dân dros y ffens, tra bod cychod pysgota yn chwifio fflagiau Palesteina.
Fe ymatebodd byddin Israel trwy saethu atyn nhw gan ddefnyddio bwledi go iawn a bomiau nwy.
Mae grŵp Hamas wedi bod yn cynnal protestiadau ger y ffin ers tua chwe mis, wrth i’r Aifft ac Israel atal bwyd a nwyddau rhag cael mynediad i Balesteina.
Ers mis Mawrth, mae 155 o Balesteiniaid wedi cael eu lladd yn y protestiadau hyn.
Mae Israel yn mynnu eu bod nhw’n gweithredu yn erbyn y protestwyr er mwyn amddiffyn y ffin.