Mae’r Prif Weinidog wedi rhoi diweddariad i Aelodau Seneddol am y datblygiadau yn y trafodaethau Brexit.
Dywedodd Theresa May bod y trafodaethau yn “tynnu tua’r terfyn” a bod angen canolbwyntio ar gael cytundeb ar y “materion dadleuol sy’n weddill”.
Mae “llawer o ddyfalu anghywir” wedi bod ynglŷn â sut mae’r trafodaethau yn datblygu, meddai.
Ond dywedodd bod cynnydd wedi cael ei wneud ynglŷn â mater ffin Gogledd Iwerddon a’i bod yn credu ei fod yn bosib dod i gytundeb er bod rhai problemau’n parhau.
Yn ystod golygfeydd tanllyd yn Nhŷ’r Cyffredin roedd arweinydd Llafur Jeremy Corbyn wedi annog Theresa May “i roi’r wlad cyn eich plaid” ac i wrthsefyll y “carfanau croes” o fewn y Blaid Geidwadol.