Mae’r Unol Daleithiau wedi gwrthod cynnig i ymuno â thrafodaethau, dan arweiniad Rwsia, i drafod dyfodol Afghanistan.
Y rheswm sy’n cael ei roi yw bod y trafodaethau yn “annhebygol o ddod â heddwch i’r ardal”.
Fe ddaw hyn wrth i weinyddiaeth Donald Trump yn y Ty Gwyn apwyntio diplomydd profiadol, Zalmay Khalilzad, i weithio ar ei rhan yn y wlad.
Mae Rwsia yn dweud y bydd gan y Taliban gynrychiolydd o gwmpas y bwrdd yn Mosgow ar Fedi 4, ynghyd â chynrychiolwyr o nifer o wledydd eraill sy’n ffinio ag Afghanistan.