Fe fydd Ysgrifennydd Brexit San Steffan yn amlinellu ei gynlluniau heddiw rhag ofn na fydd cytundeb yn y trafodaethau Brexit.

Yn ôl Dominic Raab, byddai gwledydd Prydain yn gweithredu yn “unochrog” pe bai’r trafod yn methu er mwyn sicrhau bod masnach a thrafnidiaeth yn parhau i lifo.

Mae disgwyl iddo gyhoeddi cyfres o hysbysiadau technegol law yn llaw a’i araith, a fydd yn cynghori busnesau a’r cyhoedd ar beth fydd angen ei baratoi ar gyfer Brexit dim cytundeb.

Bydd yn dweud ei fod yn “hyderus bod cytundeb da o fewn golwg, a dyna yw ein blaenoriaeth pennaf”.

“Os bydd yr Undeb Ewropeaidd yn ymateb gyda lefel o uchelgais ac ymarferoldeb, byddwn yn cytuno ar ddêl a fydd o fantais i’r ddwy ochr.

“Ond rhaid i ni fod yn barod i ystyried y dewis arall. Mae gennym ddyletswydd, fel llywodraeth gyfrifol, i gynllunio ar gyfer pob digwyddiad posib.”

Cyngor i baratoi

Bydd Dominic Raab yn ceisio sicrhau busnesau, elusennau, cyrff cyhoeddus a dinasyddion, bod yr hysbysiadau technegol yn mynd i leihau’r effaith o Brexit heb gytundeb.

“Byddan nhw’n darparu gwybodaeth ac arweiniad. Ein nod yw hwyluso parhad llyfn i fusnes, trafnidiaeth, seilwaith, ymchwil, rhaglenni cymorth a ffrydiau cyllid,” meddai.

“Mewn rhai achosion, mae’n golygu gweithredu unochrog i gynnal cymaint o barhad â phosibl yn y byr dymor, mewn achos o ddim cytundeb – waeth sut fydd yr Undeb Ewropeaidd yn ymateb.”

Mae’r Ysgrifennydd Brexit yr Wrthblaid, Keir Starmer, wedi dweud y byddai Brexit heb gytundeb yn “drychinebus” ac y dylai’r posibilrwydd o ail refferendwm “fod ar y bwrdd”.

Dan gynlluniau presennol y Llywodraeth, bydd yr hysbysiadau technegol yn cael eu cyhoeddi fesul cam, gan ddechrau heddiw [Iau, Awst 23] a pharhau drwy gydol mis Medi.

Mae adroddiadau yn awgrymu bod y pynciau yn cynnwys diogelwch awyrennau, pŵer niwclear, cyffuriau meddygol, hawliau dinasyddion Prydain sy’n byw yn yr Undeb Ewropeaidd a hawliau pysgota.