Fe fydd miloedd o ddisgyblion ledled Cymru yn cael eu canlyniadau TGAU heddiw, er bod cwymp yn y nifer sy’n sefyll arholiad yn y cymhwyster.
Ym mis Mai, gwelwyd bod 13% yn llai o ddisgyblion yn gwneud arholiad TGAU ac mae Cymwysterau Cymru wedi cyfaddef y gallai hynny gael effaith ar y canlyniad ar draws y wlad.
Ac mae newidiadau i’r TGAU Gwyddoniaeth yng Nghymru – o’r cynnwys i’r ffordd mae’n cael ei asesu, a gallai hynny effeithio ar ganlyniadau hefyd.
Ond bydd disgyblion Cymru yn parhau i dderbyn canlyniadau ar sail llythyren A*-G, tra bod pobol ifanc yn Lloegr yn cael eu dyfarnu ar sail rhif naw i un am y tro cyntaf.
Y llynedd bu’r canlyniadau TGAU A*-C isaf ers degawd, ond yn ôl Cymwysterau Cymru, roedd hyn o achos y cynnydd yn nifer y disgyblion oedd yn sefyll eu harholiadau blwyddyn yn gynnar.
Mae cwymp mawr yn nifer y cofrestriadau cynnar wedi bod eleni, gyda’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn sefyll arholiadau ym mlwyddyn 11.