Mae pump o bobol wedi cael eu hanafu yn y ddefod flynyddol o redeg gyda’r teirw yn Pamplona yn Sbaen.
Mae beth bynnag un ohonyn nhw wedi cael eu clwyfo gan gyrn.
Mae gwasanaeth ambiwlans y Groes Goch wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cludo’r clwyfedig i ysbyty gyfagos, ychydig funudau wedi i’r ras ddechrau yn y ddinas yng ngogledd Sbaen heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 7).
Roedd hi wedi bod yn bwrw glaw cyn i’r ras ddechrau, ac mae hynny wedi gwneud y cerrig yn fwy llithrig nag arfer. Fe gwympodd nifer o bobol wrth geisio cwblhau’r cwrs 930 llath mewn ychydig dros ddau funud.
Roedd y teirw heddiw yn pwyso rhwng 78 ston a 100 ston.