Mae dau ffrwydrad wedi bod ger un o adeiladau’r llywdraeth ym mhrifddinas Somalia.
Mae swn tanio hefyd wedi’i glywed yn yr un ardal o Mogadishu, ac mae adroddiadau fod dynion arfog yn gwthio eu ffordd i mewn i swyddfeydd sefydliadau gwladol.
Mae grwp eithafwyr al-Shabab wedi hawlio cyfrifoldeb am y digwyddiadau heddiw.
Yn ol yr heddlu, fe ddechreuodd yr ymosodiad pan ffrwydrodd hunanfomiwr ddyfais yn ei gar wrth glwydi swyddfa gartref Somalia, nepell o balas yr arlywydd.
Mae seirenau ambiwlans a cherbydau gwasanaethau brys i’w clywed yn y ddinas, wedi i filwyr saethu at y dorf er mwyn gwasgaru’r bobol oedd wedi ymgasglu yno i weld beth oedd yn digwydd.