Mae trên yn cario pobol wedi dod oddi ar y cledrau yn Awstria, gan adael dau gerbyd ar eu hochrau a dau o bobol wedi’u hanafu’n ddifrifol.

Mae 26 o bobol eraill wedi dianc â mân anafiadau wedi’r ddamwain ger San Poelten i’r gorllewin o’r brifddinas, Fienna.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 7yb heddiw (dydd Mawrth), pan oedd yna tua 80 o bobol ar fwrdd y trên.

Mae’r trên yn perthyn i gwmni Mariazellerbahn, ac roedd ar ei ffordd i San Poelten.