Mae pysgotwyr yn ne Cymru wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Prydain i beidio â chefnogi Morlyn Bae Abertawe.
Daw hyn yn sgil cyhoeddiad yn San Steffan ddiwedd y pnawn ddoe (dydd Llun, Mehefin 25) na fyddai’r llywodraeth yn buddsoddi yn y cynllun i greu ynni gwyrdd trwy ddefnyddio egni’r llanw.
Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genweirio (Angling Trust), y corff sy’n cynrychioli pysgotwyr a chlybiau pysgota, eu prif wrthwynebiad i’r prosiect yw’r ffaith y byddai wedi achosi niwed i fywyd morwrol Bae Abertawe.
Roedden nhw’n pryderu nad oedd gan ddatblygwyr y cynllun, Tidal Lagoon Power (TLP), gynlluniau digonol wrthlaw i leihau’r niwed y byddai’r morlyn yn ei wneud i boblogaeth y pysgod yr ardal.
Roedd ganddyn nhw hefyd bryderon y byddai’r prosiect wedi arwain at gynlluniau tebyg ar gyfer afonydd Hafren, Gwy a Wysg – a fyddai, medden nhw, wedi niweidio’r amgylchedd hyd yn oed yn fwy.
“Newyddion gwych”
“Ar ôl bod yn rhan o’r gwaith yn asesu peryglon y cynllun am nifer o flynyddoedd erbyn hyn, mae hyn yn newyddion gwych i bysgotwyr ac eraill sy’n poeni am boblogaeth y pysgod yn afonydd a dyfroedd arfordirol de Cymru…” meddai Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Genweirio, Mark Lloyd.
“Er bod hyrwyddwyr y cwmni a’r prif weithredwr wedi cyflwyno’r cynllun yn barhaus fel un sydd â manteision economaidd ac amgylcheddol anferth, y gwir yw y byddai wedi creu cyn leied o swyddi hirdymor, ynni hynod o ddrud a pheryglon mawrion i’r amgylchedd leol.”