Mae un o’r dynion cyntaf i gerdded ar y Lleuad wedi mynd â’i blant a’i reolwr busnes i’r llys, gan eu cyhuddo o ddwyn arian oddi arno a honni ei fod yn colli ei gof.
Mi gafodd yr achos gan Buzz Aldrin ei gofnodi mewn llys taleithiol yn Fflorida ddechrau’r mis, gyda’r cyn-ofodwr yn gofyn i’r barnwr wahardd ei fab, Andrew, rhag rheoli nifer o’i faterion.
Roedd y rheiny’n cynnwys rheolaeth dros faterion ariannol, cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol a nifer o fentrau dielw.
Mae’r gŵr 88 oed hefyd wedi cyhuddo ei ferch, Janice, o gamddefnyddio ei arian, a’i rheolwr busnes o dwyll.
Mewn datganiad, mi ddywedodd plant Buzz Aldrin ei bod nhw wedi cael eu tristau gan yr achos llys “anghyfiawn”.
Roedd Buzz Aldrin yn aelod o griw yr Apollo 11 a laniodd y dynion cynta’ ar y lleuad yn 1969.
Y gofodwr o New Jersey oedd yr ail berson i roi ei draed ar y lleuad, gan ddilyn Neil Armstrong.