Mae gwasanaethau achub yn Indonesia wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dod o hyd i fferi sydd wedi suddo mewn llyn, a 200 o bobol ar ei bwrdd.

Mae’r awdurdodau hefyd wedi galw am gymorth gan y gymuned ryngwladol i godi’r cwch o’r dŵr.

Mewn datganiad, maen nhw’n dweud fod y fferi wedi’i chanfod, a’i bod cyn ised â 490m (1,607 troedfedd) o dan wyneb y dŵr.

Y gred ydi fod mwy na 180 o bobol wedi boddi ar y fferi ar Fehefin 17.