Mae llew wedi cael ei ddifa ar ôl iddo ffoi o’i gawell mewn sŵ yng ngwlad Belg.
Fe ddihangodd yr anifail o Sŵ Planckendael, heddiw (dydd Iau, Mehefin 21), gan orfodi staff i dywys pobol o’r safle.
Ar ôl dau ymgais aflwyddiannus i’w dawelu â thawelyddion, bu’n rhaid ei ddifa, meddai’r sŵ.
Ni chafodd unrhyw ymwelwyr eu hanafu, a methodd y llew â ffoi y tu hwnt i ffiniau’r sŵ.
Fe ddihangodd y llew o’i gawell cyn i’r sŵ agor, felly doedd dim llawer o bobol ar y safle.