Mae Arlywydd De Corea wedi galw ar Ogledd Corea i gyflwyno cynlluniau “pendant” ynglŷn â rhoi’r gorau i’w harfau niwclear.
Daw hyn wrth i arweinydd y Gogledd, Kim Jong Un, ymweld â Tsieina i drafod canlyniadau’r uwchgynhadledd rhyngddo a Donald Trump yr wythnos ddiwetha’.
Yn ystod yr uwchgynhadledd honno, mi roddodd Kim Jong Un yr addewid y byddai’n rhoi’r gorau i’w gynllun datblygu arfau niwclear, ond methodd â rhoi unrhyw ddyddiad pendant.
Mae’r Unol Daleithiau eisoes wedi gohirio eu hymarferion milwrol ar gyfer mis Awst, ond maen nhw’n dal i aros i’r Gogledd weithredu ar ei haddewidion.
“Mae’n hanfodol i Ogledd Corea gyflwyno cynlluniau di-niwclear tipyn yn fwy manwl a phendant, a dw i’n credu ei fod yn hanfodol bod yr Unol Daleithiau yn ymateb yn brydlon trwy feddwl am fesurau cynhwysfawr,” meddai Arlywydd y De, Moon Jae-in.