Mae 34% o bobol lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LHDT); wedi cuddio’u hunaniaeth yn y gweithle oherwydd eu bod yn ofni gwahaniaethu, yn ôl ffigurau diweddar.
Mae ymchwil YouGov hefyd yn dangos bod 16% wedi wynebu sylwadau neu ymddygiad negyddol gan gydweithwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oherwydd eu hunaniaeth.
Ffigurau am Gymru yw’r rhain, ac yn ôl Stonewall Cymru, mae’r ystadegau yn dangos bod bwlio yn y gweithle yn dal i fod yn “broblem ddifrifol” i bobol LHDT.
Yn achos pobol drawsrywiol, mae 32% wedi wynebu sylwadau neu ymddygiad negyddol gan gwsmeriaid neu gleientiaid.
Gwaith i’w wneud
“Mae’r ffigurau’n dangos bod y gweithle yn lle sy’n golygu camdriniaeth a gwahaniaethu i rai pobl LHDT yng Nghymru,” meddai Cyfarwyddwr Stonewall Cymru, Andrew White.
“Mae’r ffaith bod tri ymhob deg o bobl draws wedi wynebu ymddygiad trawsffobaidd gan eu cydweithwyr yn dangos faint sydd angen i ni ei wneud cyn y gall pawb fod yn nhw eu hunain yn y gwaith.”
Cafodd 825 o bobol LHDT eu holi ar gyfer yr ymchwil.