Mae 69 o bobol wedi marw hyd yma, yn dilyn ffrwydrad llosgfynydd yng Gwatemala.
Ffrwydrodd Volcan de Fuego ddydd Sul (Maehefin 5) gan daflu cerrig poethion, lludw a mwd i’r awyr, a dinistrio pentrefi cyfagos.
Erbyn hyn, mae swyddogion wedi llwyddo i adnabod 17 o’r cyrff.
Mae dros 3,000 o bobol wedi gorfod ffoi o’u cartrefu, ac mae awdurdodau wedi cael eu beirniadu am beidio â rhybuddio trigolion yn gynharach.
Â’r gwasanaethau achub yn cynnal chwiliadau, mae disgwyl i nifer y meirw gynyddu.