Mae tri hunanfomiwr wedi taro dwy orsaf heddlu ym mhrifddinas Afghanistan, gan anafu nifer o bobol.
Fe darodd y brawychwr cyntaf yn rhan orllewinol dinas Kabul, cyn i ddau arall ffrwydro eu dyfeisiadau wrth fynedfa i orsaf heddlu yng nghanol y ddinas.
Does neb eto wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau.
Yr wythnos ddiwethaf, fe gafodd beth bynnag 25 o bobol eu lladd gan ddau hunanfomiwr yn gweithio dan enw IS (y Wladwriaeth Islamaidd).