Mae cwmni tafarnau JD Wetherspoon wedi rhoi’r bai ar y gwyl y banc cynnar ym mis Mai am y tolc yn elw’r trydydd chwarter o’r flwyddyn, tra bod “cynnydd sylweddol mewn costau” hefyd wedi cael effaith ar enillion ail hanner y flwyddyn ariannol.
Fe fu 3.5% o gynnydd yng ngwerthiant y cwmni yn yr 13 wythnos hyd at Ebrill 29, tra bod cyfanswm gwerthiant i fyny 2.8%.
Ond mae’n anodd iawn cymharu eleni gyda’r llynedd, meddai’r cwmni, gan fod penwythnos gwyl y banc Mai 2017 wedi’i gynnwys yn ystadegau’r un cyfnod flwyddyn yn ol, ond ddim yn rhan o’r ffigyrau eleni.
Mae’r cadeirydd, Tim Martin, hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod ansicrwydd ynglyn â Chwpan y Byd yn Rwsia ym mis Mehefin eleni, yn gwneud rhagweld yn anodd.
Roedd cyfranddaliadau JD Wetherspoon i lawr 0.3% fore heddiw.