Mae senedd Armenia wedi ethol arweinydd yr wrthblaid, Nikol Pashinian, yn brif weinidog newydd y wlad.

Mae’r gwleidydd wedi arwain wythnosau o brotestiadau heddychlon, ar y cyfan, wedi cyfnod cythryblus iawn.

Mae degau o filoedd o bobol heddiw’n dathlu ar sgwar canolog prifddinas Armenia, Yerevan. Mae’r mwyafrif ohonyn nhw’n gwisgo dillad gwyn, yn symbol o’r gobaith y mae ei ethol yn ei roi am ddalen newydd yn y wlad.

Fe gafodd ei ethol o 59-49 o bleidleisiau, er bod y laid Weriniaethol y mae’n ei gwrthwynebu yn dal i fod â mwyafrif yn y senedd.

“Fe ddewison ni ffordd newydd yn Armenia, lle mai’r bobol fydd yn gyrru’r cerbyd, ac nid y criwiau sydd mewn pwer,” meddai un protestiwr ar y cyfryngau.

“Fe fydd swyddi’n ymddangos. Fe fydd pobol yn dychwelyd. Ac fe fydd llygredd yn diflannu.”