Mae dyn a roddodd fai ar ei fab 14 oed am lofruddiaeth, wedi’i ddedfrydu i fwy na chwarter canrif yn y carchar.

Fe saethodd y torrwr coed, Mathew Moseley, 50 oed, ei gyfaill Lee Holt, 32 oed, yn farw fis Hydref y llynedd, cyn rhoi’r gwn yn nwylo ei fab, Thomas Moseley

Roedd wedi dweud wrth hwnnw wedyn i ddweud celwydd wrth yr heddlu trwy gyfaddef mai fe oedd yn gyfrifol am y llofruddiaeth yn Oswaldtwistle, Swydd Gaerhirfryn.

Ond yn ddiweddarach, fe newidiodd y mab ei stori, gan ddweud mai ei dad oedd y saethwr, er gwaetha’r ffaith i hwnnw fynnu ei fod yn ddieuog.

Fe gafodd Mathew Moseley ei ganfod yn euog yn Llys y Goron Preston yr wythnos ddiwethaf yn dilyn achos llys a barodd tair wythnos.

Fe gafodd ei ddedfrydu heddiw (dydd Mawrth, Mai 8) i o leiaf 26 blynedd yn y carchar.