Mae disgwyl “datganiad pwysig” gan grŵp o gyn-aelodau ac aelodau cangen Plaid Cymru Llanelli yn ddiweddarach heddiw.

Daw’r cyhoeddiad mewn cyfarfod yn Neuadd Ddinesig Glenalla heno, lle bydd y cyn-swyddogion rhanbarthol, Sean Rees a Howell Williams, yn cymryd rhan.

Mae golwg360 ar ddeall bod y datganiad yn gysylltiedig ag ymgais gan y blaid yn ganolog i ddisgyblu pum aelod a/neu gyn-aelod.

Cafodd y gangen gyfan ei gwahardd ym mis Chwefror, yn sgil ffrae tros ymgeisydd Etholiad Cyffredinol 2016, Mari Arthur. Dadl grŵp y gangen yw bod yr ymgeisydd “wedi’i gorfodi arnyn nhw”.

A ddiwedd Ebrill, roedd golwg360 yn adrodd fod y grŵp wedi cyflwyno cwyn swyddogol yn erbyn uwch swyddogion Plaid Cymru, gan gyhuddo’r arweinydd, y cadeirydd a’r Prif Weithredwr o “achosi dadrith”.