Mae naw o bobol o Puerto Rico wedi marw yn yr Unol Daleithiau, ar ôl i awyren blymio i’r ddaear.

Mae’n debyg bod yr awyren tua 60 mlwydd oed, a bwriad y daith o dalaith Georgia i Arizona oedd er mwyn ei dad-gomisiynu.

Ond ychydig eiliadau ar ôl iddi gychwyn o Faes Awyr Rhyngwladol Savannah, fe blymiodd i’r ddaear gan daro lôn gyhoeddus.

Yn ôl yr awdurdodau, mae’n ffodus na wnaeth yr awyren daro unrhyw gar na chartref, a hynny mewn ardal sy’n “brysur iawn”.

Ond maen nhw wedi cadarnhau yn ddiweddarach eu bod yn credu bod neb o’r criw wedi goroesi’r ddamwain, a oedd yn cynnwys cyfanswm o naw person.

Fe gafodd yr awyren Guard C-130 eu defnyddio y llynedd yn ystod Corwynt Irma, lle llwyddodd i achub dinasyddion o’r Unol Daleithiau a oedd wedi’u dal gan y tywydd garw ar Ynysoedd y Wyryf.

Bu hefyd yn allweddol yn cario nwyddau i Puerto Rico yn ystod Corwynt Maria rai wythnosau’n ddiweddarach.

Dyw’r awdurdodau heb gadarnhau beth oedd achos y ddamwain eto.