Mae prif weithredwr ac un o sefydlwyr y rhwydwaith cymdeithasol, WhatsApp, wedi gadael ei swydd yn dilyn ffrae ddiweddar y cwmni Facebook ynghylch rhannu gwybodaeth bersonol.
Fe gadarnhaodd Jan Koum ei fod yn gadael Whatsapp ar ei dudalen Facebook.
Ni ymhelaethodd ryw lawer am ei resymau dros adael, heblaw am y ffaith ei fod am “symud ymlaen” er mwyn treulio mwy o amser yn casglu ceir Porsche a chwarae frisbî.
Ond mae’r Washington Post wedi adrodd bod y prif weithredwr hefyd wedi ymadael â bwrdd rheoli Facebook, sy’n rhan o’r un cwmni â WhatsApp. Ond dyw’r rhwydwaith cymdeithasol heb wneud sylw ar y mater.
Ffrae Facebook
Mae Facebook wedi bod mewn dyfroedd dyfnion yn ddiweddar wedi iddi ddod i’r amlwg eu bod nhw wedi rhannu gwybodaeth bersonol eu defnyddwyr â’r cwmni ymgynghorol gwleidyddol, Cambridge Analyticia.
Ers hynny, mae Facebook wedi gorfod wynebu cwestiynau ynglŷn â’r eu bod yn gwerthu gwybodaeth er mwyn cael arian o hysbysebion.
Dyw WhatsApp fel rhwydwaith ddim yn defnyddio unrhyw hysbysebion, ac mae ganddi reolau tynnach am wybodaeth bersonol.
Mae’n bosib y bydd ymadawiad Jan Koum yn rhoi pennaeth Facebook, Mark Zuckerberg, mewn sefyllfa fregus heddiw (dydd Mawrth, Mai 1), pan fydd yn camu i lwyfan cynhadledd y cwmni.
Mae disgwyl i dros 5,000 o ddatblygwyr apiau fod yn bresennol yn y digwyddiad, gyda nifer ohonyn nhw’n ddefnyddwyr y rhwydwaith, WhatsApp.