“Mae llygaid y byd ar yr Alban” wrth iddi gyflwyno isafbris ar alcohol, yn ôl Prif Weinidog y wlad, Nicola Sturgeon.

Mae’r isafbris o 50c ar bob uned o alcohol, a gafodd ei oedi am chwe mlynedd yn dilyn brwydr gyfreithiol â’r Gymdeithas Scotch Whisky, wedi dod i rym yn yr Alban heddiw (dydd Mawrth, Mai 1).

Mae’n cael ei ddisgrifio gan ymgyrchwyr yn un o’r digwyddiadau pwysicaf ym maes iechyd ers y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus.

Yn ôl amcangyfrif, fe fydd tua 392 o fywydau yn cael eu hachub o fewn y pum mlynedd nesaf.

Ar hyn o bryd, mae tua 22 o bobol yn marw mewn ysbytai bob wythnos o ganlyniad i’r camddefnydd o alcohol.

Mae’r camddefnydd hwn hefyd yn costio’r llywodraeth yn yr Alban tua £3.6m y flwyddyn, neu £900 i bob oedolyn yn y wlad.

Yr Alban yw’r wlad gyntaf

“Yr Alban yw’r wlad gyntaf yn y byd sydd wedi bod yn ddigon hy a dewr i gyflwyno isafbris,” meddai Nicola Sturgeon wrth groesawu’r gyfraith newydd.

“Fe fydd llygaid y byd ar yr Alban nid yn unig am heddiw, ond wrth i fanteision y polisi gael eu gweld a’u teimlo hefyd…

“Mae’r dystiolaeth i gyd yn dangos bod isafbris yn lleihau nifer y farwolaethau o afiechydon sy’n cael eu hachosi gan alcohol, lleihau’r nifer sy’n ymweld â’r ysbytai, ynghyd â lleihau yn gyffredinol y niwed mae’r camddefnydd o alcohol yn ei gael ar ein cymdeithas.”

Cynlluniau

Mae cynlluniau ar y gweill gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno isafbris tebyg yn ystod y flwyddyn nesaf.

Yn ôl adroddiad a gafodd ei gyflwyno gan Grŵp Ymchwil Alcohol ym Mhrifysgol Sheffield ddechrau’r flwyddyn, mae poblogaeth Cymru’n prynu 50% o’u halcohol am lai na 55c yr uned.