Fe fydd un o uwch swyddogion yr Eglwys Gatholig, George Pell, yn ymddangos gerbron llys yn Awstralia ar amheuaeth o gyflawni troseddau rhywiol.
Fe gafodd cyn-drysorydd y Pab ei arestio fis Mehefin y llynedd, a hynny ar gyhuddiadau o ymosod yn rhywiol ar bobol yn nhalaith Fictoria.
Ond er bod yr ynad, Belinda Wallington, wedi gwrthod rhai o’r cyhuddiadau yn ei erbyn ystod gwrandawiad a barodd bedair wythnos, mae wedi dweud bod yna ddigon o dystiolaeth yn erbyn George Pell i’w ddwyn gerbron llys.
Ond pan ofynnodd i’r cardinal sut yr oedd yn pledio, fe ymatebodd trwy ddweud ei fod yn “ddieuog”.
Troseddau “hanesyddol”
Does dim gwybodaeth wedi’i rhyddhau am beth yn union yw’r cyhuddiadau yn erbyn George Pell, ond mae’r heddlu yn Awstralia wedi dweud eu bod yn rhai “hanesyddol”.
Mae’n debyg bod ei ddioddefwyr wedi cyflwyno tystiolaeth yn ystod y gwrandawiad trwy gyfrwng fideo, a hynny mewn man anhysbys a oedd ar gau i’r cyhoedd a’r wasg.
Mae cyfreithiwr George Pell yn honni bod y cyn-drysorydd wedi cael ei dargedu o fewn yr Eglwys Gatholig am fethu â gweithredu yn erbyn clerigwyr a oedd yn camymddwyn yn rhywiol.
Ond mae’r erlynydd wedi dweud nad oes yna ddigon o dystiolaeth i gefnogi’r ddamcaniaeth hon.
Tawelwch y Pab
Hyd yn hyn, dyw’r Pab Francis ddim wedi gwneud sylw ar y mater, gan ddweud ei fod yn disgwyl i’r achos ddod i ben.
Pan ddaeth y cyhuddiadau i’r amlwg y llynedd, ni wnaeth y Pab ddiswyddo George Pell o’r trysorlys yn syth. Yn hytrach, fe ymddiswyddodd y Cardinal yn wirfoddol er mwyn dychwelyd i’w gartref yn Awstralia.
Mae George Pell wedi dweud eisoes ei fod yn bwriadu dychwelyd i drysorlys y Fatican unwaith y bydd yr achos ar ben.