Mae dyn 42 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau brawychol wrth iddo gael mynediad i wledydd Prydain ar fws o Ffrainc.
Fe gafodd y dyn ei ddal gan yr awdurdodau yn Folkestone, Swydd Gaint, a hynny toc cyn 1yb heddiw (dydd Mawrth, Mai 1).
Yn ôl yr heddlu, fe gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r rhyfel yn Syria, ac mae’n cael ei ddal o dan Adran 5 yn y Ddeddf Frawychiaeth – sy’n rhwystro unrhyw sy’n cael eu hamau o baratoi gweithred frawychol.
Mae’r dyn ar hyn o bryd yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu yn Swydd Gaint.