Mae angen i Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol – y corff sy’n cynorthwyo Aelodau Cynulliad – fod yn “fwy tryloyw” ynglyn â’i arian, yn ôl pwyllgor.

Mae’r Comisiwn yn derbyn cyllid i dalu am gostau Aelodau Cynulliad, ond yn aml mae ganddyn nhw arian dros ben.

Gyda’r arian hwn y mae ambell brosiect yn cael ei ariannu o bryd i’w gilydd.  

Ar ôl ymchwilio i hyn, mae’r Pwyllgor Cyllid wedi dod i’r casgliad y dylai’r Comisiwn ariannu’r prosiectau o’u cyllid yn unig, ac nid o arian dros ben.

Cyllido

“Rydym o’r farn y dylid nodi a chyllido prosiectau craidd ar wahân,” meddai’r Aelod Cynulliad, Simon Thomas, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

“Trwy ddefnyddio’r tanwariant ar gyfer prosiectau o’r fath, mae’r Comisiwn yn dibynnu ar adnodd anrhagweladwy er mwyn cyflawni yr hyn mae wedi ymrwymo iddo nhw.”