Byddai’n well gan y mwyafrif helaeth o ddisgyblion gael eu dysgu gan bobol go iawn yn hytrach na robot, yn ôl arolwg newydd.
Mae 83% o ddisgyblion chweched dosbarth yn ffafrio athrawon dynol, gyda 66% yn gwrthod robotiaid yn llwyr.
Yn ogystal, mae 43% yn ofni y byddan nhw’n ei chael hi’n anoddach i gael gafael ar swydd oherwydd ‘deallusrwydd artiffisial’ – artificial intelligence (AI).
Cafodd yr arolwg ei gomisiynu gan Gynghrair y Prifathrawon a Phrifathrawesau (HMC), ac mi wnaeth 500 disgybl chweched dosbarth gymryd rhan.
“Trosglwyddo gwybodaeth”
“Er bod technoleg yn datblygu mewn modd cyffrous, bydd yn rhaid i ni aros am gyfnod hir cyn bod robotiaid yn medru cydymdeimlo â phobol ifanc,” meddai Cadeirydd HMC, Chris King.
“Yn ogystal, dyw robot ddim yn medru tynnu ar eu profiadau i ddod â phwnc yn fyw. Mae yna fwy i ddysgu, na throsglwyddo gwybodaeth.”