Mae lleidr a ddihangodd o garchar ar ynys yn Siapan, wedi cael ei ddal gan yr heddlu.

Llwyddodd Tatsuma Hirao, 27, i ddianc o’r safle yn nhalaith Ehime ddechrau mis Ebrill.  

Aeth ar ffo i ynys arall, Mukaishima, lle’r oedd 1,000 o blismyn yn chwilio amdano yn ddyddiol, cyn nofio i Hiroshima.

Roedd yn cerdded ar hyd stryd yn y ddinas honno pan ddaeth heddlu o hyd iddo.

Mae awdurdodau’n amau ei fod wedi lladrata tra’r oedd ar ffo. Mae eisoes wedi’i ddedfryd i bum mlynedd a hanner dan glo am ladrata.