Fe fydd un o weinidogion Llywodraeth Cymru yn ymddangos gerbron pwyllgor yn ddiweddarach heddiw (dydd Mawrth, Mai 1), i drafod y broblem o “ddieithrio” rhwng plant a rhieni.
Yn ôl Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, mae lles emosiynol plentyn yn medru cael ei niweidio pan fo rhieni sydd wedi gwahanu yn ffraeo.
Yn aml mae un rhiant yn troi’r plentyn yn erbyn ei riant arall gan greu pellter rhyngddyn nhw, meddai.
Gerbron Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad, mae disgwyl i’r gweinidog amlinellu sut bydd Llywodraeth Cymru yn “delio” ag achosion o hyn yn y dyfodol.
Dieithrio
“Nid syndrom neu gategori o ymddygiad yw dieithrio plentyn oddi wrth riant yn ein barn ni, ond set o ymddygiadau sy’n achosi i blentyn â’i riant ymbellhau oddi wrth ei gilydd,” meddai Huw Irranca-Davies.
“Y mater pwysicaf i ni yw bod ein rhaglenni cymorth rhianta a’r fframweithiau rheoleiddiol a chyfreithiol sy’n bodoli’n barod yn mynd i’r afael yn briodol â’r ymddygiadau hyn, pan fyddant yn codi.”