Mae’r gofal sy’n cael ei gynnig i ddioddefwyr asthma yng ngwledydd Prydain ymhlith y gwaetha’ yn Ewrop, yn ôl elusen.
Rhwng 2011 a 2015, roedd cyfradd marwolaethau asthma’r Deyrnas Unedig 50% yn uwch na chyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl dadansoddiad Asthma UK.
A dim ond pum gwlad oedd â chyfradd is na’r Deyrnas Unedig, sef Serbia, Twrci, Estonia, Sbaen a Chyprus.
 hithau’n Ddiwrnod Asthma Rhyngwladol, mae Asthma UK wedi galw ar ffigyrau’r maes iechyd i “drin asthma o ddifri”.
“Diffyg dealltwriaeth”
“Mae’n dipyn o syndod bod cymaint o bobol yn y Deyrnas Unedig yn parhau i farw o byliau asthma,” meddai Dr Samantha Walker, cyfarwyddwr ymchwil a pholisi Asthma UK.
“Dydyn ni ddim yn hollol sicr ynglŷn â pham bod y Deyrnas Unedig ar ei hol hi.
“Rydym ni’n credu bod diffyg dealltwriaeth yn chwarae rôl.”