Mae cyn-Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont wedi ei ryddhau o’r ddalfa yn yr Almaen, a hynny ar fechnïaeth o 75,000 wuro (£65,000).

Dywedodd yr erlynwyr yn rhanbarth Schleswig fod y cyn-Arlywydd hefyd wedi darparu cyfeiriad ei gartref yn yr Almaen iddyn nhw, wrth iddo aros am benderfyniad ynglŷn â’r achos i’w estraddodi yn ôl i Sbaen.

Fe gafodd Carles Puigdemont, sy’n 55 oed, ei arestio gan awdurdodau’r Almaen ar Fawrth 25, tra oedd yn teithio o Ddenmarc i Wlad Belg – lle mae wedi bod yn alltud ers mis Hydref y llynedd.

Roedd hyn ychydig oriau ar ôl i’r prif lys yn Sbaen gyhoeddi warant Ewropeaidd i’w arestio, a hynny ar gyhuddiadau o “wrthryfela” a “chamddefnyddio arian cyhoeddus”.

Roedd hyn mewn cysylltiad â’r refferendwm ar annibyniaeth i Gatalwnia a gafodd ei gynnal fis Hydref y llynedd, gydag awdurdodau Sbaen yn ystyried y digwyddiad yn un anghyfreithlon.

Ond fe benderfynodd lys rhanbarthol Schleswig ddoe (dydd Iau, Ebrill 5) nad oedd y cyhuddiad o ‘wrthryfela’ yn ei erbyn yn ddigon o reswm i estraddodi Carles Puigdemont yn ôl cyfraith yr Almaen.

Yn ôl ei diffiniad nhw o ‘wrthryfela’, mae’n rhaid bod yr unigolyn wedi defnyddio trais neu fygythiad o drais yn erbyn y wladwriaeth.

Ond fe all y cyn-Arlywydd gael ei hel yn ôl i Sbaen o hyd, a hynny am y cyhuddiadau o gamddefnyddio arian cyhoeddus.

Mae Dirprwy Prif Weinidog Sbaen, Soraya Saenz de Santamaria, wedi dweud bod llywodraeth y wlad yn parchu penderfyniad y llys, a’u bod nhw’n aros am ragor o wybodaeth cyn gwneud ymateb.

Yn y cyfamser, mae gan Carles Puigdemont y rhyddid i grwydro o fewn ffiniau’r Almaen.