Mae tensiynau wedi dwysau ar y ffin rhwng Gaza ac Israel, gydag adroddiadau o brotestwyr yn cael eu saethu.
Yn ôl meddygon yno, mae deuddeg wedi cael eu hanafu gan fwledi, wrth i fyddin Israel wrthdaro â Phalestiniaid.
Dyma’r ail brotest i’w chynnal, ers i arweinwyr mudiad Hamas alw am fis o ymgyrchu.
Cafodd Hamas eu hethol yn arweinwyr ar Gaza yn 2006, ac ers hynny mae Israel a’r Unol Daleithiau wedi gosod y diriogaeth dan warchae economaidd.
Pwrpas y mis o ymgyrchu yw protestio yn erbyn hyn.
Yn ystod protest ddydd Gwener diwethaf (Mawrth 30), cafodd dwsin o brotestwyr eu lladd a channoedd eu hanafu pan daniodd milwyr Israelaidd atyn nhw.