Mae’r heddlu yn Awstria wedi bod yn holi grŵp o bobol ifanc o wledydd Prydain ynglŷn â ffrae a ddigwyddodd wrth adael lifft sgïo, lle cafodd tri pherson eu hanafu.
Bu cythrwfl fore ddoe (dydd Iau, Ebrill 5) yng nghanolfan wyliau Obertauern yn Salzburg.
Mae’n debyg bod grŵp o sgiwyr wedi bod yn ffraeo â’i gilydd ynglŷn â phwy ddylai adael y lifft yn gyntaf.
Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu fod Almaenwr 51 oed, ynghyd â’i fab 16 oed, wedi bod yn ymladd â grŵp o fechgyn rhwng 15 a 16 oed wrth iddyn nhw adael y lifft.
Fe ddaeth yr ymladd i ben ar ôl i bobol gerllaw ymyrryd.
Fe dorrodd y bachgen 16 oed o’r Almaen ei fraich yn y ffracas.