Mae Sipsiwn a Theithwyr oedrannus o dde Cymru ymhlith y grwpiau a phrosiectau fydd yn cael arian gan y Loteri Genedlaethol.
Mae disgwyl i £3,180,808 gael ei rannu rhwng 14 o brosiectau ledled Cymru, a’r nod yw gwella cysylltiadau rhwng pobol unig a’u cymunedau.
Ymhlith y grwpiau sy’n elwa mae Cwmni Diwylliant a Chelfyddydau’r Romani, Canolfan Deuluoedd Y Borth a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint.
Bydd Cwmni Diwylliant a Chelfyddydau y Romani yn cael £99,680.
“Fel Sipsi sydd wedi byw ar safleoedd awdurdod lleol, does dim byd ar gael ar gyfer yr henoed,” meddai Isaac Blake, Cyfarwyddwr y Cwmni.
“Gallant deimlo’n unig iawn. Bydd y prosiect hwn yn gwneud cryn dipyn i ddelio â hyn ac rwy’n falch iawn ohono.”
Y prosiectau
- Prosiect ‘Down to Earth’: £423,329
- Race Equality First Cyfyngedig: £499,455
- Y Llyfrgell Cyfleoedd a Chwarae Hamdden: £75,372
- Cwmni Cymunedol Eco-explore: £99,950
- Digwyddiadau Green City: £69,808
- Canolfan Deuluoedd Y Borth: £242,854
- Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint: £73,466
- Cwmni Diwylliant a Chelfyddydau y Romani: £99,680
- Mudiad Effaith Gymunedol: £300,220
- BCA Independent Advocacy Services: £249,927
- Partneriaeth Adfywio Ynysybwl: £249,816
- Cymdeithas Ieuenctid a Phlant Sir Gâr: £486,672
- Cyngor Esgobaethol Tŷ Ddewi: £240,091
- Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru: £70,168