Mae Liz Saville Roberts yn galw am gyflwyno cynllun i ailuno teulu Palesteinaidd.
Fe wnaeth Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd ac arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan godi’r cais gan ei hetholwr ddoe (dydd Mawrth, Mai 7).
Mae gan Emily Fares o Lwyngwril yng Ngwynedd nifer o aelodau o’r teulu yn gaeth yn Gaza, ac mae eu hanner nhw bellach wedi ffoi o Rafah.
Dywedodd wrth Liz Saville Roberts fod y teulu wedi gadael am Al Mawasi, ond nad oes “dim adeilad yno iddyn nhw aros”, “dim darpariaethau bwyd”, “unman i fynd i’r toiled, unman i ymolchi”, gan ychwanegu eu bod yn “hollol amddifad”.
Ers i’r bomio ddechrau, mae teulu Emily Fares wedi cael eu dadleoli wedi i’w cartref yn Khan Yunis gael ei ddinistrio.
Cawson nhw eu gorfodi allan i’r stryd, heb fynediad at fwyd, dŵr na meddyginiaeth.
Saith mis oed yw’r aelod ieuengaf o’r teulu, ac mae’r hynaf yn 71 oed.
Y llywodraeth yn ‘gwrthod cymryd hyd yn oed y camau dyngarol mwyaf cymedrol’
Dywedodd Liz Saville Roberts wrth Andrew Mitchell, y Dirprwy Ysgrifennydd Tramor yn San Steffan, fod “dadleoli gorfodol yn drosedd rhyfel”, a galwodd am gynllun fisa tebyg i Wcráin i helpu pobol o Gaza i ymuno â’u teuluoedd yn y Deyrnas Unedig.
Fis Rhagfyr, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig nad oedd ganddyn nhw “unrhyw gynlluniau i gyflwyno trefniadau pwrpasol ar gyfer pobol sy’n cyrraedd o’r rhanbarth”.
“Mae gan fy etholwr Emily Fares deulu yn Gaza,” meddai Liz Saville Roberts.
“Dyma ei neges: ‘Rydyn ni wedi clywed gan ein teulu ddoe, mae eu hanner nhw bellach wedi ffoi o Rafah ar ôl i orchmynion gwacáu bygythiol ddisgyn o’r awyr.
“Pan wnaethon ni siarad â nhw, doedden nhw ddim yn gwybod lle’r oedden nhw’n mynd – fe wnaethon nhw sôn am Al Mawasi.
“Ond does dim adeilad yno iddyn nhw aros, dydy o ddim yn ddiogel yno. Nid oes darpariaethau bwyd yno, nid oes unman i fynd i’r toiled, unman i ymolchi. Maen nhw’n gwbl amddifad’.
“Mae dadleoli gorfodol yn drosedd rhyfel.
“Mae gan y Llywodraeth y gallu i sefydlu cynllun i bobol sy’n ysu i ymuno â theulu yn y Deyrnas Unedig.
“Os nad nawr, pryd?
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn methu â sefyll i fyny â thorri cyfraith ryngwladol Israel,” meddai wrth siarad ar ôl y sesiwn.
“Mae’n sefyll yn segur wrth i luoedd Israel gynnal ymosodiad erchyll ar ddinas Rafah yn Gaza.
“Mae teuluoedd Palesteinaidd yma fyddai’n hoffi aduniad teuluol gyda’u perthnasau yn Gaza dros dro.
“Mae o fewn gallu’r Llywodraeth i ymateb i’r erchyllterau yn Gaza gyda’r un ddynoliaeth â gynigir i bobol sy’n ffoi o Wcráin.
“Ond eto mae’r Gweinidog yn gwrthod cymryd hyd yn oed y camau dyngarol mwyaf cymedrol.
“Mae’n rhaid i’r trychineb hwn stopio nawr.
“Mae’n rhaid i’r Deyrnas Unedig ddod â’i chydymffurfedd i ben a rhoi’r gorau i werthu arfau yn syth i Israel.
“Rhaid i ni sicrhau cadoediad ar unwaith, ac yn barhaol.”