Mae pryderon gan gynghorydd yn Sir y Fflint y gallai datblygiad ym Mrychdyn roi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus lleol.
Mae’r Cynghorydd Llafur Sam Swash yn beirniadu’r ffaith fod cymunedau llleol o fewn yr awdurdod yn cael eu hesgeuluso o ganlyniad i’r Cynllun Datblygu Lleol sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r Cynllun Datblygu Lleol, sydd ar waith ar draws y 22 awdurdod yng Nghymru, a’r cynlluniau tai sydd wedi dilyn wedi cael eu beirniadu gan drigolion, gwrthbleidiau, a rhai cynghorwyr Llafur am roi datblygwyr uwchlaw cymunedau.
Maen nhw hefyd yn gwrthwynebu’r cynlluniau ar draws gogledd-ddwyrain Cymru, gan ddweud na fydd canran dderbyniol o’r tai sy’n cael eu hadeiladu yn fforddiadwy.
“Yr ymgyrch yn erbyn y datblygiad yn fy ward i, Brychdyn a Mancot, yw’r ymgyrch fwyaf sydd wedi bod yn erbyn datblygiad tai yn hanes Sir y Fflint,” meddai Sam Swash wrth golwg360.
“Serch hynny, mae datblygwyr preifat, tirfeddianwyr cyfoethog, y Cyngor Sir a Llywodraeth Cymru wedi cynllwynio i danseilio ac anwybyddu’r gymuned.”
Mae’r ymgyrch wedi canolbwyntio’n bennaf ar ddatblygiad arfaethedig o 300 o dai ger Ffordd Gladstone a Lôn Ash ym Mrychdyn.
Yn ystod yr ymgyrch yn erbyn y cynlluniau hyn, mae mwy na 2,500 o bobol wedi llofnodi deiseb yn erbyn y datblygiad, a 650 gwrthwynebiad i’r cais wedi cael eu cyflwyno o fewn y ffenestr statudol o 21 diwrnod.
“Dywedodd un aelod o’r pwyllgor cynllunio wrtha i nad ydyn nhw erioed wedi gweld cymaint o wrthwynebiadau i gais unigol ers bod ar y pwyllgor,” meddai’r cynghorydd wedyn.
Mae cynlluniau i adeiladu 315 tŷ arall yn Ewlo, ychydig filltiroedd o’r safleoedd ym Mrychdyn, yn achosi mwy fyth o straen i drigolion, sy’n poeni am fynediad i wasanaethau allweddol.
“Mae trigolion yn iawn i ofni’r ffaith fod gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith yn barod mewn sefyllfa fregus, o ysgolion i ddoctoriaid a deintyddion, hyd yn oed i’r fynwent ym Mrychdyn, sydd yn llawn,” meddai Sam Swash.
“Mae o’n glir i fi fod y Cynllun Datblygu Lleol wedi’i ddylunio’n bwrpasol mewn ffordd sydd yn tanseilio nifer fach o gymunedau, gyda sicrwydd bod y mwyafrif o gynghorwyr sy’n cynrychioli ardaloedd heb eu heffeithio, am bleidleisio dros y cynllun.”
‘Milwrio yn erbyn cymuned’
Wrth siarad â golwg360, mae Mabon ap Gwynfor, llefarydd tai Plaid Cymru, wedi ategu barn Sam Swash.
“O edrych ar Wrecsam, mae [Bwrdd Iechyd] Betsi [Cadwaladr] wedi’i gwneud hi’n glir, does yna ddim gallu o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ateb y galw, ond ddaru nhw ddim gwrthwynebu hyn,” meddai.
“Felly mae’r system gynllunio yn milwrio yn erbyn cymuned, ond wedi’i bwyso i fod o fudd i ddatblygwyr.
“Mae o’n lopsided.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Sir y Fflint.