Mae Liz Saville Roberts wedi beirniadu rhagrith Llafur a’r Ceidwadwyr ynghylch rhoddion ariannol.

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan drafod y mater yn ystod cwestiynau Cymreig yn San Steffan.

Daeth ei sylwadau wrth nodi 25 mlynedd ers datganoli yng Nghymru, wrth iddi ddweud bod helynt y Prif Weinidog Vaughan Gething a’r cwestiynau ynghylch ei “onestrwydd ar ôl dileu negeseuon a derbyn rhoddion amheus” wedi “tynnu sylw” y Senedd.

Mae hi’n galw ar lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i “ailymrwymo i lywodraethu â gonestrwydd a thryloywder”.

‘Ymrwymo i onestrwydd’

Roedd cryn chwerthin wrth i David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ddweud bod y Ceidwadwyr “wedi ymroi’n llwyr i onestrwydd”.

Ychwanegodd Liz Saville Roberts nad oedd y blaid wedi dychwelyd rhoddion gwerth £10m “gan ddyn wnaeth sylwadau hiliol a gwreig-gasaol”.

Fe wnaeth David TC Davies wrthod ymrwymo i gefnogi cap ar roddion gwleidyddol, fel mae nifer wedi bod yn galw amdano.

“Mae mwy nag un ym mhob pedwar o blant yng Nghymru’n byw mewn tlodi,” meddai Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd.

“Mae gan ddatganoli y capasiti i drawsnewid bywydau pobol, ond mae sylw’r Prif Weinidog presennol [Vaughan Gething] wedi’i dynnu gan gwestiynau am ei onestrwydd ar ôl dileu negeseuon a derbyn rhoddion amheus.

“25 mlynedd ers dechrau datganoli, a yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn cytuno â mi fod angen i lywodraethau y naill ben a’r llall i’r M4 ailymrwymo i onestrwydd a thryloywder?”

‘Rhagrith’

Atebodd David TC Davies drwy ddweud y gallai “sicrhau bod y Llywodraeth hon a’r blaid wleidyddol hon wedi ymrwymo’n llwyr i onestrwydd”.

Daeth chwerthin o’r siambr wrth iddo roi’r ateb.

“Pan ddaw i grebwyll yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â’r Prif Weinidog [Vaughan Gething], ydyn, rydyn ni’n cytuno unwaith eto,” meddai Liz Saville Roberts.

“Ond mae hyn yn ymddangos yn rhagrithiol.

“Fe wnaeth y Torïaid yn y Senedd bleidleisio yn erbyn cynnig gan Blaid Cymru i osod cap ar roddion gwleidyddol.

“Dydy ei blaid dal heb ddychwelyd rhodd o £10m gan ddyn oedd wedi gwneud sylwadau hiliol a gwreig-gasaol.

“Yn ysbryd democratiaeth agored, a fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cefnogi cap ar roddion i bleidiau gwleidyddol?”

Atebodd na allai “eistedd yma a dechrau creu polisïau wrth fynd ymlaen”.