Mae paratoadau ar gyfer yr uwchgynhadledd rhwng Gogledd a De Corea, a fydd yn cael ei gynnal ddiwedd y mis, wedi cychwyn.

Mewn pentref ger y ffin, mae cynrychiolwyr o’r ddwy wlad ar y rhagynys wedi bod yn trafod y paratoadau ar gyfer yr uwchgynhadledd ar Ebrill 27, gan drafod materion megis diogelwch, protocol, a sut fydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu ar y cyfryngau.

Prif fwriad yr uwchgynhadledd rhwng arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, ac Arlywydd y De, Moon Jae-in, yw ceisio perswadio’r Gogledd i roi’r gorau i’w chynllun arfau niwclear.

Daw hyn wrth i’r berthynas rhwng y Gogledd a’r byd wella dros y misoedd diwethaf, ac mae disgwyl y bydd yna uwchgynhadledd arall rhwng Kim Jong Un ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, ddiwedd mis Mai.

Yr uwchgynhadledd ddiwedd y mis fydd y trydydd i gael ei gynnal rhwng y Gogledd a’r De ers y rhyfel rhwng 1950 a 1953. Cafodd y ddau gyfarfod arall eu cynnal yn 2000 a 2007.