Mae pump o ddynion wedi’u cyhuddo yn dilyn gorymdaith ‘anghyfreithlon’ yn ninas Derry ddydd Llun y Pasg (Ebrill 2).
Maen nhw wedi’u cyhuddo o gymryd rhan mewn prosesiwn cyhoeddus nad oedd wedi’i hysbysu.
Mae disgwyl i’r dynion 29, 31, 42, 45 a 50 oed ymddangos gerbron ynadon y ddinas ar Ebrill 25.
Fe gawson nhw eu harestio wedi i’r digwyddiad fynd allan o reolaeth ac i drigolion ymosod ar yr heddlu trwy daflu sbwriel a bomiau petrol atyn nhw.
Mae gweriniaethwyr yng Ngogledd Iwerddon yn dathlu Gwrthryfel y Pasg, a ddigwyddodd yn Nulyn yn 1916, bob blwyddyn.