Mae Rwsia wedi gofyn am gyfarfod arbennig o Gyngor y Cenhedloedd Unedig er mwyn trafod y ffrae ynglŷn â’r ymosodiad yn Salisbury ddechrau’r mis diwethaf.
Daw hyn ddiwrnod ar ôl cyfarfod arbennig o’r OPCW (y Sefydliad er mwyn Atal Arfau Cemegol) yn llys yr Hâg, lle methodd Rwsia â sicrhau cefnogaeth i’w chais i fod yn rhan o’r ymchwiliad i’r ymosodiad ar y cyn-ysbïwr, Sergei Skripal, a’i ferch, Yulia, ar Fawrth 4.
Yn y cyfarfod hwnnw, fe ddywedodd cynrychiolydd o’r Deyrnas Unedig fod Rwsia yn “nerfus” ynglŷn â beth fydd yr ymchwiliad yn ei ddarganfod.
Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, wedi disgrifio cais Rwsia fel ymgais i “guddio’r gwir a drysu’r cyhoedd” am yr ymosodiad.
Cam yn nes?
Yn y cyfamser, mae erthygl ym mhapur newydd The Times yn honni bod y gwasanaethau diogelwch yn y Deyrnas Unedig gam yn nes at ddarganfod ym mha labordy yn Rwsia y cafodd y nwy nerfol, sy’n perthyn i’r teulu Novichok, ei gynhyrchu.
Daw hyn er gwaethaf y ffaith i ganolfan ymchwil y fyddin yn Porton Down, sydd ddim yn bell o Salisbury, gyhoeddi ddechrau’r wythnos eu bod nhw wedi methu ag olrhain ffynhonnell y nwy.
Mae Rwsia wedi gofyn am gyfarfod o Gyngor y Cenhedloedd Unedig ar gyfer yfory (dydd Iau, Ebrill 6).