Mae pennaeth Facebook, Mark Zuckerberg, wedi syrthio ar ei fai yn dilyn y cyhoeddiad bod gwybodaeth 87 miliwn o ddefnyddwyr y wefan gymdeithasol wedi’i rannu â Cambridge Analytica.
O’r ffigwr hwn, mae’n debyg bod dros filiwn (1,079,031) o ddefnyddwyr o wledydd Prydain.
Ond mae’r mwyafrif o’r rheiny a gafodd eu heffeithio o’r Unol Daleithiau, ynghyd â thros filiwn o Ynysoedd y Ffilipinas ac Indonesia.
“Heb wneud digon”
Mewn cynhadledd arbennig dros y ffôn gyda newyddiadurwyr, fe ddywedodd Mark Zuckerberg fod y cwmni “heb wneud digon” i amddiffyn ei ddefnyddwyr.
Fe roddodd yr addewid hefyd y byddai Facebook yn gwneud mwy o ymdrech yn y dyfodol i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel.
“Ni wnaethom ni gymryd golwg digon eang ar ein cyfrifoldeb,” meddai. “Roedd hynny’n gamgymeriad mawr. Fy nghamgymeriad i ydoedd.”
Pan ofynnwyd iddo wedyn os mai fe oedd y person gorau i arwain Facebook i’r dyfodol, ei ymateb oedd “ie”, gan ychwanegu bod angen “dysgu” o gamgymeriadau.
“Pan ydych chi’n adeiladu rhywbeth fel Facebook sy’n anferth ledled y byd,” meddai eto, “mae yna rai pethau yr y’ch chi’n mynd i wneud llanast ohono fe.”