Mae cyn-Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy, yn gwrthod honiadau ei fod wedi derbyn miliynau o ewros o arian gan unben Libya, Muammar Gaddafi.
Bellach, mae ymchwilwyr yn ystyried honiadau i’r gwleidydd dderbyn €50m (£43m) gan gyn-arweinydd Lybia, fel cyfraniad tuag at ei ymgyrch arlywyddol yn 2007.
“Dw i wedi fy nghyhuddo heb dystiolaeth go iawn o gwbwl,” meddai Nicolas Sarkozy mewn datganiad i farnwyr.
Mewn gwrandawiad rhagarweiniol ddydd Mercher (Mawrth 21), fe gafodd y cyn-arlywydd ei gyhuddo o lygredd, ac o dderbyn arian yn anghyfreithlon.
Daeth hyn wedi i Nicolas Sarkozy, 63, gael ei holi am ddeuddydd gan heddlu.