Mae awdurdodau ledled Ewrop wedi bod yn cydweithio er mwyn chwalu giang o sydd wedi bod yn prynu a gwerthu pobol.
Y gred ydi fod y criw yn cludo pobol i Ewrop trwy’r Eidal a Lybia, ac yn gorfodi menywod i droi’n buteiniaid er mwyn talu am y daith.
Fe gynhaliodd heddlu Sbaen 41 o gyrchoedd mewn 11 o ddinasoedd yn y wlad honno, ac fe fu’r Sefydliad Troseddau Cenedlaethol yng ngwledydd Prydain hefyd yn chwilio am aelodau o’r giang yn ninas Manceinion.
Cafodd 89 o bobol eu harestio a 39 o bobol eu hachub.
Roedd y giang yn gweithredu’n bennaf yn Nigeria, ac yn mynd â phobol i sawl un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd.