Gwenda Owen o Ruthun ydi enillydd John a Ceridwen Hughes Uwchaled eleni – gwobr sy’n cael ei dyfarnu’n flynyddol gan fudiad yr Urdd i gydnabod cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.
Mae hi’n gyn-athrawes a phennaeth ysgol, ac yn fam i dri o fechgyn. Yn ystod yr 1980au a 1990au, tra’n athrawes yn Ysgol Gynradd Pentrecelyn, Rhuthun bu’n hyfforddi unigolion ac yn sgriptio a llwyfannu caneuon actol, cyflwyniadau dramatig a phartion llefaru llwyddiannus mewn eisteddfodau.
Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled ei rhoi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen Hughes oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.
Bydd yn cael ei chyflwyno mewn seremoni arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed ar Faes y Sioe, Llanelwedd ddiwedd mis Mai.