Mae arlywydd Myanmar (Burma), sy’n ffrind agos i’r arweinydd Aung San Suu Kyi, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd heddiw ar dudalen Facebook Swyddfa Arlywydd Burma, fe fydd Htin Kyaw yn ymddeol o’i ddyletswyddau, ac fe fydd y swydd yn cael ei llenwi o fewn saith niwrnod gwaith.
Fe ddaeth Htin Kyaw yn arlywydd sifil cyntaf Myanmar yn 2016, ac ef oedd pennaeth cyntaf ei llywodraeth i gael ei hethol trwy etholiad teg.
Ond fe ddaw ei gyhoeddiad ar adeg helbulus iawn yn hanes y wlad, gyda llygaid y byd yn gwylio’r ffordd y mae Mwslimiaid Rohingya yn ffoi rhag y milwyr, ac yn mynd yn eu miloedd dros y ffin i Bangladesh.