Mae tri o bob pedwar busnes yng ngwledydd Prydain sydd wedi anfon manylion eu cwmnïau i’r Llywodraeth, yn dal i dalu mwy i ddynion na menywod.
Erbyn Ebrill 4, mae’n ofynnol i gwmnïau a chyrff cyhoeddus gyda thros 250 o weithwyr gyflwyno eu ffigurau bwlch cyflog canolrifol a chymedrig i Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth.
Yn ôl y ffigurau sydd wedi’u cyflwyno hyd yn hyn gan 2,743 o gwmnïau, mae gan 77% ohonyn nhw ‘fwlch cyflog’ o blaid dynion, 8.7% heb fwlch, a 14.3% fwlch o blaid menywod.
Disgwylir y bydd yn rhaid i 9,000 o gyflogwyr gyflwyno data o’r fath – gyda’r rheiny sy’n methu ag ymateb erbyn y dyddiad cau yn wynebu camau cyfreithiol.
“Mae’r Llywodraeth yn glir bod mynd i’r afael ag anghyfiawnder fel y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn rhan o adeiladu gwlad sy’n gweithio i bawb,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref.