Mae dyn o wledydd Prydain wedi’i ddedfrydu i flwyddyn o garchar wedi’i gohirio yn Cambodia, ar ôl i lys yn y wlad ei gael yn euog o gynhyrchu pornograffiaeth.
Fe gafwyd Daniel Jones, 31, yn euog o bostio lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol o ddawnsio awgrymog a rhywiol mewn parti gyda thramorwyr eraill.
Gallai gael ei ryddhau yfory (ddydd Mercher) ar ôl treulio mis a 22 diwrnod dan glo, gyda gweddill ei ddedfryd yn cael ei chanslo. Ond, os y bydd yr erlynwyr yn apelio, fe allai dreulio mwy o amser yn y carchar.
Cafodd grwp o ddeg o dramorwyr – pump o’r Deyrnas Unedig, dau o Ganada, ac un yr un o Norwy, yr Iseldiroedd a Seland Newydd – eu dal ym mis Ionawr, pan gynhaliodd heddlu gyrch mewn parti mewn fila yn Siem Reap. Bryd hynny daethon nhw o hyd i bobol yn dawnsio ger y pwll nofio.
Rhyddhawyd y naw tramorwr arall ar fechnïaeth, ac fe gawson nhw eu hanfon adref fis diwethaf, wedi i’r cyhuddiadau yn eu herbyn gael eu gollwng.