Mae Banc Tsieina wedi addo o leiaf 10 biliwn yuan (£1.1bn) ar gyfer creu parc cadwraeth panda enfawr yn nhalaith de-orllewinol Sichuan.
Cyhoeddodd gweinidogaeth goedwigaeth Tsieina heddiw gytundeb rhwng y banc a’r llywodraeth daleithiol i ariannu adeiladu Parc Cenedlaethol Panda erbyn 2023.
Nod y parc yw hybu’r economi leol tra’n gwella amodau bridio ar gyfer pandas gwyllt sy’n byw yn y rhanbarth mynyddig
Fe fydd pum miliwn erw o dir yn cael ei glustnodi, gan ei wneud yn fwy na dwywaith maint Parc Cenedlaethol Yellowstone yn yr Unol Daleithiau.
Pandas mawr yw masgot cenedlaethol answyddogol Tsieina, ac maen nhw’n byw yn bennaf ym mynyddoedd Sichuan.